Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 1 Gorffennaf 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.04 - 10.13 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
||||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2 Deisebau newydd
2.1 P-04-567 Chwarae Teg i Fyfyrwyr Cymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:
· ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am ei farn ar y ddeiseb; a
· gofyn a oedd unrhyw ddeisebau blaenorol wedi arwain at faterion tebyg er mwyn adolygu'r camau a gymerwyd.
2.2 P-04-568 Ymchwiliad Cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn ar y ddeiseb.
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1 P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gyflwyno adroddiad ar y ddeiseb i'r Cynulliad â'r bwriad o gynnal trafodaeth ar y mater yn y Cyfarfod Llawn.
3.2 P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog a yw'n fodlon cyfarfod â'r deisebydd, yn unol â chais y deisebydd.
3.3 P-04-536 Rhoi’r Gorau i Ffatrïoedd Ffermio Gwartheg Godro yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
ysgrifennu at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i ofyn a allai ystyried edrych y materion fel rhan o'i flaenraglen waith, ac yn dibynnu ar ei ymateb;
· ystyried cyflawni darn o waith ar y ddeiseb fel rhan o flaenraglen waith y Pwyllgor Deisebau; ac
ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio a Cyfoeth Naturiol Cymru gan roi cyfle iddynt ymateb i'r materion a godwyd gan y deisebwyr.
3.4 P-04-521 Rheoleiddio Safleoedd Carafannau
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· cau'r ddeiseb gan y teimlwyd na ellid gwneud fawr ddim yn rhagor, yn gyffredinol nac yn benodol, o ran bwrw ymlaen â'r ddeiseb; ond wrth wneud hynny
· anfon manylion y ddeiseb at Darren Millar AC a Chadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol gan eu bod yn trafod y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru).
3.5 P-04-540 Stopio rhagfarn ar sail rhyw mewn cam-drin domestig
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· aros am ymateb gan Cymorth i Fenywod; a
· Rhoi gwybod i'r deisebydd am drefniadau i graffu ar y Bil Trais ar Sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yng Nghyfnod 1, a'i wahodd i gyfrannu at y broses honno.
3.6 P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y Gweinidog a'r deisebydd ar y wybodaeth a ddarparwyd gan Gymdeithas Adareg Cymru.
3.7 P-04-514 Dylid adeiladu gorsaf bŵer sy'n defnyddio glo glân o Gymru a/neu gorsaf ynni adnewyddadwy yn hytrach na gorsaf niwclear arfaethedig Wylfa B ar Ynys Môn.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am ymateb gan Hitachi ynglŷn â'i waith i ddatblygu technoleg glo glân.
3.8 P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· drafod deisebau P-04-408 a P-04-505 ar wahân yn y dyfodol; ac
· thynnu sylw'r deisebydd at Ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed; a
· anfon manylion am y ddeiseb at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
3.9 P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· drafod deisebau P-04-408 a P-04-505 ar wahân yn y dyfodol; ac
· ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn am wybodaeth am ei hymgyrch ddiweddar.
3.10 P-04-456 Dementia – Gallai hyn ddigwydd i chi
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gadw golwg ar y mater.
3.11 P-04-490 Meddyginiaeth Gwrth-retrofeirysol yng Nghaerdydd
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ofyn i'r Gweinidog pa gamau yr oedd wedi eu cymryd yn benodol i ymgynghori â chleifion HIV ynghylch y canllawiau; a
· gofyn am farn grwpiau o gleifion HIV ynghylch y mater.
3.12 P-04-485 Camddefnyddio contractau dros dro yn y sector Addysg Bellach
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· rannu'r papur ymchwil gyda'r deisebwyr; a
· thrafod a oes angen cymryd unrhyw gamau pellach yn sgil yr ymateb.
3.13 P-04-516 Gwneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· rannu'r papur ymchwil gyda'r deisebydd; ac
· ysgrifennu at yr Athro Graham Donaldson gan rannu'r papur ymchwil a gofyn a fyddai'n barod i gyfarfod â'r deisebydd er mwyn cael trafodaeth fanylach ynglŷn â phwnc y ddeiseb.
3.14 P-04-528 Addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn eto i'r deisebydd a oes ganddo unrhyw sylwadau yn sgîl yr ymatebion a ddaeth i law hyd yma.
3.15 P-04-542 Cyfleoedd Ymarferol i Bobl Ifanc
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r deisebydd a yw'n fodlon ar ymateb y Dirprwy Weinidog.
3.16 P-04-475 Yn eisiau – Bysiau i Feirionnydd
Trafododd y Pwyllgor bapur ymchwil ar ddeisebau P-04-475, 513 a 515 a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, gan ofyn iddi ymateb i nifer o gwestiynau, a fydd yn helpu gyda'r gwaith y mae'r Pwyllgor yn ei wneud.
3.17 P-04-513 Achub gwasanaeth bws X94 Wrecsam/Abermo
Gweler y pwynt gweithredu o dan eitem 3.16 ar yr agenda.
3.18 P-04-515 Darparu rhagor o arian ar gyfer Gwasanaethau Bysiau Cymru
Gweler y pwynt gweithredu o dan eitem 3.16 ar yr agenda.